José de Alencar

Nofelydd, newyddiadurwr, a gwleidydd Brasilaidd oedd José Martiniano de Alencar (1 Mai 182912 Rhagfyr 1877) sydd yn nodedig am arloesi ''Indianismo'' yn llên Brasil. Ysgrifennodd hefyd ddramâu, ysgrifau, a barddoniaeth, ac mae ei weithiau llenyddol yn cyflwyno portread cyflawn o fywyd Brasil yng nghanol y 19g ac yn gyfraniad pwysig at hunaniaeth ddiwylliannol y wlad.

Ganed yn Fortaleza, prifddinas talaith Ceará, yng ngogledd-ddwyrain Ymerodraeth Brasil, i deulu a oedd yn weithgar yng ngwrthryfel Pernambuco (1817). Astudiodd y gyfraith yn São Paulo ac yn Recife cyn iddo ymsefydlu yn Rio de Janeiro i weithio i'r wasg. Yn 1856 cyhoeddodd ei ddwy gyfrol gyntaf, y nofel ''Cinco Minutos'' a'r casgliad o erthyglau ''Cartas sobre "A Confederação dos Tamoios"'' sydd yn ymdrin â'r gerdd honno gan Domingos José Gonçalves de Magalhães.

Dygwyd mudiad ''Indianismo'' gan ei nofel arloesol ''O Guarani'' (1857): dyma'r esiampl gyntaf yn llên America Ladin o bortread nodweddiadol Ramantaidd o fywyd brodorion yr Amerig, ac yn cynnwys yr enwau brodorol am blanhigion ac anifeiliaid a disgrifiadau sentimental o'u traddodiadau. Ymhelaethodd Alencar ar y thema honno mewn sawl nofel arall ac yn ei arwrgerdd ''Os Filhos de Tupã'', a ysgrifennwyd yn 1863 ond nas cyhoeddid nes y 1910au. Ymhlith ei nofelau eraill mae ''Senhora'' (1875) ac ''Encarnação'' (1893), y ddwy wedi eu lleoli yn y ddinas; y nofelau gwledig ''O Gaúcho'' (1870) ac ''O Sertanejo'' (1875); a'r nofelau hanesyddol ''As Minas de Prata'' (1862/1865–1866), ''Alfarrábios'' (1873), ac ''A Guerra dos Mascates'' (1873–1874). Ym myd theatr Rio de Janeiro, ysgrifennodd un ddrama hanesyddol, ''O Jesuíta'' (1875), a sawl comedi a drama.

Gwasanaethodd Alencar yn gynrychiolydd dros Ceará yn Siambr y Dirprwyon, a chafodd swydd gweinidog cyfiawnder yn llywodraeth Brasil o 1868 i 1870. Un o wrthwynebwyr yr Ymerawdwr Pedro II oedd Alencar, a fe'i trafodai yn feirniadol dan y ffugenw Erasmo, ar ffurf ''Ao Imperador: Cartas Políticas de Erasmo'' (1865) ac ''Ao Emperador: Novas Cartas Políticas de Erasmo'' (1866).

Teithiodd Alencar i Ewrop yn 1877 i geisio gwella'i afiechyd. Bu farw o dwbercwlosis yn Rio de Janeiro yn 48 oed. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, ''Como e Porque Sou Romancista'' (1893), dwy flynedd ar hugain wedi ei farwolaeth. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 17 canlyniadau o 17 ar gyfer chwilio 'Alencar, José de', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  2. 2
    Ver en el OPAC del Koha
    Apuntes
  3. 3
    gan Alencar, José de
    Cyhoeddwyd 1993
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  4. 4
    gan Alencar, José de
    Cyhoeddwyd 1977
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  5. 5
    gan Alencar, José de
    Cyhoeddwyd 1981
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  6. 6
    gan Alencar, José de
    Cyhoeddwyd 1981
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  7. 7
    gan Alencar, José de
    Cyhoeddwyd 1975
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  8. 8
    gan Alencar, José de
    Cyhoeddwyd 1990
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  9. 9
    gan Alencar, José de
    Cyhoeddwyd 1977
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  10. 10
    gan Alencar, José de
    Cyhoeddwyd 1970
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  11. 11
    gan Alencar, José de
    Cyhoeddwyd 2005
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  12. 12
    gan Alencar, José de
    Cyhoeddwyd 1984
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  13. 13
    gan Alencar, José de
    Cyhoeddwyd 1988
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  14. 14
    gan Alencar, José de, Mendes, Oscar, org
    Cyhoeddwyd 1969
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  15. 15
    gan Alencar, José de, Mendes, Oscar, org
    Cyhoeddwyd 1980
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  16. 16
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  17. 17