Alfred Schutz
Cymdeithasegydd ac athronydd Awstriaidd oedd Alfred Schutz (13 Ebrill 1899 – 20 Mai 1959) a ddatblygodd syniadaeth gymdeithasol yn seiliedig ar ffenomenoleg.Ganed yn Fienna, Awstria-Hwngari, i Alfred a Johann (Fialla) Schütz. Gwasanaethodd yn y fyddin Awstriaidd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac astudiodd y gyfraith ac economeg ym Mhrifysgol Fienna. Cafodd swydd ysgrifennydd-weithredwr yng Nghymdeithas Bancwyr Awstria, ac yn 1929 dechreuodd weithio i'r banc Reitler. Priododd ag Ilse Heim yn 1926, a chawsant ddau blentyn.
Yn sgil yr ''Anschluss'' yn 1938, ffoes Schultz a'i deulu i Baris, ac oddi yno ymfudasant i Unol Daleithiau America yn 1939. Yn Ninas Efrog Newydd, llwyddodd Schutz i ddal gafael ar ei swydd ym manc Reitler. Er na gweithiodd yn academydd llawn-amser, sefydlodd y cyfnodolyn ''Philosophy and Phenomenological Research'' yn 1940. Bu'n ddarlithydd ôl-raddedig yn yr Ysgol Newydd ar gyfer Ymchwil Cymdeithasol o 1943 hyd ddiwedd ei oes. Bu farw yn Ninas Efrog Newydd yn 60 oed. Cafodd ei waith ddylanwad mawr ar ddatblygiad ethnomethodoleg. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9