José Hernández
Bardd, newyddiadurwr, milwr, a gwleidydd Archentaidd oedd José Hernández (10 Tachwedd 1834 – 21 Hydref 1886). Ei gampwaith ydy ''Martín Fierro'', enghraifft nodweddiadol o lenyddiaeth y ''gaucho'' a ystyrir yn arwrgerdd genedlaethol yr Archentwyr ac yn un o glasuron llên yr Ariannin.Ganwyd ar fferm gwartheg ger San Martín yn nhalaith Buenos Aires. Aeth i'r pampas yn ei arddegau, ac yno dysgodd am fywyd a diwylliant y ''gauchos''. Daeth yn weithgar ym myd gwleidyddiaeth cefn gwlad, ac ymunodd â'r fyddin yn 19 oed. Ar ôl rhyw pum mlynedd yn rhan o'r brwydrau rhwng y llywodraeth a'r taleithiau, ymddeolodd o'r fyddin ac ymfudodd i Entre Ríos yn 1858. Yno, ymunodd ag ymgyrchoedd chwyldroadol yn erbyn y llywodraeth ganolog, a chafodd hefyd ei brofiad cyntaf o newyddiaduraeth. Ailymunodd â'r fyddin yn 1859 a bu'n ymladd ym mrwydrau Cepeda (1859) a Pavón (1861).
Ymsefydlodd yn Buenos Aires yn 1863, a gweithiodd i'r papur newydd ''El Argentino''. Yn 1869 sefydlodd ''El Río de la Plata'', ond cafodd y papur newydd hwnnw ei wahardd gan yr Arlywydd Domingo Sarmiento, a oedd hefyd yn llenor ac yn wrthwynebydd i Hernández. Brwydrodd Hernández yng ngwrthryfel Ricardo López Jordán yn erbyn Sarmiento, ond bu'n rhaid iddo ffoi i Frasil yn 1871 yn sgil methiant y gwrthryfel hwnnw.
Dychwelodd i Buenos Aires a chyhoeddodd ''El gaucho Martín Fierro'' yn 1872 a'r dilyniant ''La vuelta de Martín Fierro'' yn 1879. Y rheiny yw'r unig farddoniaeth a gyhoeddwyd ganddo. Ysgrifennodd sawl gwaith gwleidyddol ac erthyglau gan gynnwys ''Instrucción del estanciero'' (1881). Fe'i etholwyd yn gynrychiolydd ac yn seneddwr, a chynorthwyodd wrth sefydlu dinas La Plata. Bu farw yn ardal Belgrano, Buenos Aires, yn 51 oed o drawiad ar y galon. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20