Canlyniadau Chwilio - Keynes, John Maynard
John Maynard Keynes
bawd|250px|John Maynard Keynes (ar y dde) a Harry Dexter White yng nghynhadledd Bretton WoodsEconomegydd o Loegr oedd John Maynard Keynes, Barwn 1af Keynes (5 Mehefin 1883 – 21 Ebrill 1946). Cafodd ei syniadau, Economeg Keyenes, ddylanwad mawr ar theori economeg ac ar bolisïau economaidd llawer o lywodraethau. Credai y dylai'r llywodraeth ymyrryd yn yr economi i wrthweithio effeithiau mwyaf eithafol y cylch economaidd. Ystyrir ef fel un o sylfaenwyr macroeconomeg.
Ganed Keynes yng Nghaergrawnt. Roedd ei dad, John Neville Keynes, yn ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Aeth i ysgol Eton ac yna i Goleg y Brenin, Caergrawnt yn 1902. Yn ddiweddarach daeth yn ddarlithydd yng Nghaergrawnt. Apwyntiwyd ef yn ymgynghorydd i'r Trysorlys yng Nghynhadledd Heddwch Paris yn 1919 a arweiniodd at Gytundeb Versailles Cyhoeddodd ddau lyfr ar y mater, ''The Economic Consequences of the Peace'' yn 1919, a ''A Revision of the Treaty'' yn 1922, gan ddadlau fod y taliadau a orfodid ar yr Almaen yn ormod, ac y byddai'n difetha economi'r Almaen ac yn arwain at ryfel pellach.
Cyhoeddodd ei lyfr pwysicaf, ''General Theory of Employment, Interest and Money'', yn 1936, gan herio economeg glasurol. Darparwyd gan Wikipedia