Canlyniadau Chwilio - Mármol, José
José Mármol
Bardd, dramodydd a nofelydd yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd José Mármol (2 Rhagfyr 1817 – 9 Awst 1871). Cysylltir ef â'r mudiad Rhamantaidd. Mae'n nodedig am ysgrifennu'r nofel Archentaidd gyntaf, ''Amalia'' (1851–2).Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, ac astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Buenos Aires. Cafodd ei garcharu yn 1839 am feddu ar bapurau newydd a gyhoeddwyd ym Montevideo, Wrwgwái, gan lenorion Archentaidd alltud. Tra'n bwrw ei ddedfryd yn y ddalfa, ysgrifennodd Mármol ei gerdd gyntaf ar fur ei gell, gwaith a oedd yn beirniadu Juan Manuel de Rosas, Llywodraethwr Talaith Buenos Aires. Aeth i Montevideo yn 1840 i ymuno â'r deallusion alltud a'r wasg ryddfrydol, a chyhoeddodd sawl gwaith yn lladd ar Rosas, gan gynnwys ei gerdd enwocaf, ''A Rosas, el 25 de Mayo de 1843''. Ysgrifennodd ddramâu yn y cyfnod hwn hefyd.
Wrth i luoedd Rosas symud tuag at Montevideo, bu'n rhai i Mármol ac alltudion eraill ffoi i Rio de Janeiro, Brasil. Yn 1844, aeth Mármol o Rio ar fordaith ffaeledig i Valparaiso, Tsile, yng nghwmni Archentwyr eraill. Bu'n rhaid i'r llong droi'n ôl i Frasil oherwydd tymhestloedd yn ardal yr Horn. Dychwelodd Mármol i Montevideo yn 1846, ac ysbrydolwyd gan ei brofiad ar y môr i gyfansoddi'r cylch o gerddi ''El Peregrino'' (1847). Cyhoeddodd ei nofel hir ''Amalia'' mewn penodau yn 1851–2.
Yn 1852 cafodd Rosas ei ddymchwel, a dychwelodd Mármol i'w famwlad. Ni ysgrifennodd lawer yn ystod deunaw mlynedd olaf ei oes. Gwasanaethodd mewn swyddi gwleidyddol a diplomyddol, ac yn gyfarwyddwr Llyfrgell Gyhoeddus Buenos Aires. Bu farw yn Buenos Aires yn 53 oed. Darparwyd gan Wikipedia