Leopoldo Marechal

Nofelydd, bardd, dramodydd, ac ysgrifwr Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Leopoldo Marechal (11 Mehefin 190026 Mehefin 1970). Mae'n nodedig am ei nofelau athronyddol ac am ei gyfraniadau at lên yr Ariannin yn hanner cyntaf yr 20g.

Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin. Yn y 1920au, Marechal oedd un o'r garfan o lenorion ifainc yn y mudiad ''ultraísmo'' a gyhoeddasant y cylchgronau ''Martín Fierro'' a ''Proa''. Mae ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, ''Aguiluchos'' (1922), yn defnyddio technegau ''modernismo'' i ymdrin â themâu bugeiliol. Mynegir estheteg ''ultraísmo'' gan drosiadau a delweddaeth ei gasgliadau o gerddi ''Días como flechas'' (1926) ac ''Odas para el hombre y la mujer'' (1929). Dylanwadwyd arno gan athroniaeth newydd-Blatonaidd yn ei farddoniaeth yn y 1930au: ''Cinco poemas australes'' (1937), ''Sonetos a Sophia'' (1940), ac ''El centauro'' (1940).

Ei gampwaith ydy'r nofel ''Adán Buenosayres'' (1948), gwaith cymhleth ac arddulliedig sy'n rhagflaenu'r "nofel newydd" yn llên America Ladin. O ran ei wleidyddiaeth, datblygodd Marechal o sosialydd i fod yn Beronydd pybyr, a gwasanaethodd mewn swyddi diwylliannol yn llywodraeth Juan Perón. Wedi cwymp Perón yn 1955, treuliodd Marechal ryw ddeng mlynedd yn byw o'r neilltu. Dychwelodd at sylw'r cyhoedd gyda'r nofelau ''El banquete de Severo Arcángelo'' (1965) a ''Megafón o la guerra'' (1970, gweithiau sy'n llawn archwiliadau mytholegol a delfrydyddol yr awdur. Bu farw yn Buenos Aires yn 70 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 14 canlyniadau o 14 ar gyfer chwilio 'Marechal, Leopoldo', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Marechal, Leopoldo
    Cyhoeddwyd 1999
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  2. 2
    gan Marechal, Leopoldo
    Cyhoeddwyd 2013
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  3. 3
    gan Marechal, Leopoldo
    Cyhoeddwyd 1943
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  4. 4
    gan Marechal, Leopoldo
    Cyhoeddwyd 1979
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  5. 5
  6. 6
    gan Marechal, Leopoldo
    Cyhoeddwyd 1966
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  7. 7
    gan Marechal, Leopoldo
    Cyhoeddwyd 1967
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  8. 8
    gan Marechal, Leopoldo
    Cyhoeddwyd 1970
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  9. 9
    gan Marechal, Leopoldo
    Cyhoeddwyd 1985
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  10. 10
    gan Marechal, Leopoldo
    Cyhoeddwyd 1993
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  11. 11
    gan Marechal, Leopoldo
    Cyhoeddwyd 1997
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  12. 12
    gan Marechal, Leopoldo
    Cyhoeddwyd 1973
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  13. 13
    gan Marechal, Leopoldo
    Cyhoeddwyd 2000
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros
  14. 14
    gan Marechal, Leopoldo
    Cyhoeddwyd 1977
    Ver en el OPAC del Koha
    Libros